acyfeiriad at Genesis 1:26-27

James 3

Dofi'r tafod

1Frodyr a chwiorydd, nid lle pawb ydy ceisio bod yn athrawon sy'n dysgu pobl eraill yn yr eglwys. Dylech sylweddoli y byddwn ni sy'n dysgu eraill yn cael ein barnu'n fwy llym. 2Dŷn ni i gyd yn gwneud pob math o gamgymeriadau. Os oes rhywun yn gallu rheoli ei dafod, a dweud dim byd o'i le byth, dyna i chi berson perffaith! Rhywun sy'n gallu rheoli ei hun yn llwyr. 3Dŷn ni'n rhoi ffrwyn ar geffyl i'w wneud yn ufudd i ni, a'i droi i'r cyfeiriad dŷn ni am iddo fynd. 4A gyda llongau mawr sy'n cael eu gyrru gan wyntoedd cryfion, llyw bach iawn sydd ei angen i'r peilot eu troi nhw i ble bynnag mae'n dewis mynd. 5Dyna i chi'r tafod! Mae'n rhan fach iawn o'r corff, ond mae'n gallu honni pethau mawr iawn! Fflam fach iawn sydd ei angen i roi coedwig enfawr ar dân. 6A fflam felly ydy'r tafod! Mae'r tafod yn llawn drygioni, ac o blith holl rannau'r corff, hwn ydy'r un sy'n gallu llygru'r bersonoliaeth gyfan. Mae'n gallu dinistrio holl gwrs ein bywyd ni! Mae'n fflam sydd wedi ei thanio gan uffern!

7Mae pobl yn gallu dofi pob math o anifeiliaid ac adar, ymlusgiaid a physgod, 8ond does neb byw sy'n gallu dofi'r tafod. Mae'n ddrwg cwbl afreolus; mae'n llawn gwenwyn marwol! 9Gallwn addoli ein Harglwydd a'n Tad nefol un funud, ac yna'r funud nesa dŷn ni'n melltithio pobl sydd wedi eu creu ar ddelw Duw! a 10Mae bendith a melltith yn llifo o'r un geg! Ddylai hi ddim bod felly, frodyr a chwiorydd! 11Ydy dŵr glân a dŵr hallt yn tarddu o'r un ffynnon? 12Ydy olewydd yn tyfu ar goeden ffigys, neu ffigys ar winwydden? Wrth gwrs ddim! A dydy pwll o ddŵr hallt ddim yn rhoi dŵr glân i ni chwaith!

Dau fath o ddoethineb

13Pwy ohonoch chi sy'n meddwl ei fod yn ddoeth ac yn gall? Dylai ddangos hynny yn y ffordd mae'n ymddwyn. Mae doethineb go iawn yn gwneud daioni heb frolio am y peth. 14Ond os ydych chi'n llawn cenfigen chwerw ac uchelgais hunanol does gynnoch chi ddim lle i frolio, am fod peth felly yn gwbl groes i'r gwirionedd. 15Dim dyna'r math o ‛ddoethineb‛ mae Duw'n ei roi i bobl! Yn hollol i'r gwrthwyneb! – mae ‛doethineb‛ felly yn beth bydol, anysbrydol, ac yn dod o'r diafol ei hun! 16Ble bynnag mae cenfigen ac uchelgais hunanol, byddwch chi'n dod o hyd i anhrefn a phob math o ddrygioni.

17Ond mae'r doethineb sy'n dod oddi wrth Dduw yn y lle cyntaf yn bur. Mae hefyd yn meithrin heddwch, addfwynder, cydweithrediad, caredigrwydd a gweithredoedd da. Mae'n gwbl ddiduedd a diragrith. 18Bydd y rhai sy'n hybu heddwch drwy hau hadau heddwch yn medi cynhaeaf o gyfiawnder.

Copyright information for CYM